Eisoes yn astudio AU yn CAVC?
Os ydych eisoes yn astudio ar lefel addysg uwch gyda ni yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae gennych fynediad at ein holl adnoddau yn Gyrfaoedd a Syniadau;
- Ffeiriau Cyflogadwyedd
- Arweiniad ar chwilio am swydd
- Ysgrifennu CV
- Cymorth Cyfweliad Ffug
- Arweiniad ar y Camau Nesaf/Cyfeirio at Gymorth
- A llawer mwyl
Cysylltwch â ni yn careers@cavc.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiad neu gwestiwn, a byddwn yn falch o helpu.
Astudiwch gyda Ni
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyrsiau AU rydym yn eu cynnig, cymerwch olwg ar ein prosbectws ar-lein isod.
Pam Astudio Addysg Uwch yn CAVC?
Mae gennym gyfraddau cyrhaeddiad arrdderchog, gyda 98% o’r dysgwyr AU sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddo i ennill eu cymhwyster
Nodwedd allweddol o’n rhaglenni prifysgol yw’r cymorth eithriadol rydym yn rhoi i’r myfyrwyr. Rydym yn angerddol dros ddarparu gwasanaethau cymorth pwrpasol ac wedi ymrwymo i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yma ac i wneud y gorau o’ch potensial.
Darlithwyr arbenigol sy’n ymgysylltu’n llawn â’u diwydiannau a’r tueddiadau a’r datblygiadau diweddaraf.
Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd i roi hwb i’ch siawns o sicrhau eich gyrfa ddelfrydol.
Cyfleusterau o’r radd flaenaf a chanolfannau hyfforddi pwrpasol o safon diwydiant ar draws Caerdydd a’r Fro. Gan gynnwys ein Campws Canol y Ddinas gwerth £45 miliwn gyda chanolfan AU bwrpasol, y Ganolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) a aChampws y Barri
- Graddau Sylfaen
Mae Graddau Sylfaen yn integreiddio dysgu academaidd a seiliedig ar waith trwy gydweithio rhwng cyflogwyr a darparwyr rhaglenni. Eu bwriad yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol i ddiwydiant. Mae Graddau Sylfaen yn cynnig cymhwyster annibynnol a hefyd yn cynnig cyfleoedd cynnydd ar gyfer astudiaethau pellach. Fel arfer, trwy astudio dros ddwy flynedd (tua 3 blynedd yn rhan amser) bydd myfyrwyr llwyddiannus yn cael cyfle i ‘ychwanegu’ i radd lawn gyda’n prifysgolion partner. - HNCs/HNDs
Os ydych chi’n chwilio am cymhwyster cysylltiedig â gwaith fydd yn hybu eich gyrfa ac yn cynnig sgiliau ymarferol, mae ein cyrsiau HNC a HND yn opsiwn delfrydol. Mae HNC’s a HND’s yn gymwysterau cysylltiedig â diwydiant ac yn cael eu cyfri’n werthfawr gan gyflogwyr. Mae cyrsiau HNC a HND yn cyfuno gwaith academaidd ac ymarferol a dysgu galwedigaethol fydd yn datblygu’r sgiliau byddwch eu hangen yn y gweithle. - Cyrsiau Gradd BA (Anrh) a BSc (Anrh)
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig cyrsiau graddau llawn cyffrous. Mae’r rhain yn cael eu cynnig mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion ac yn rhoi i chi gymhwyster gradd yn eich maes diddordeb. - Tystysgrif Addysg i Raddedigion Proffesiynol (TAR/ Tystysgrif Proffesiynol mewn Addysg (ProfCE)
Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, mae CAVC yn cynnig y ddau gymhwyster yma mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol i’ch galluogi i ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod fel un cymwys i ddysgu yn y sector ôl-orfodol.
Eisiau cymorth i wneud cais?
Mae ein Hyfforddwyr Gyrfa yma i’ch helpu gyda’ch ceisiadau i brifysgolion. O benderfynu beth i ymgeisio amdano i ysgrifennu eich datganiad personol a chyflwyno eich cais ar y system UCAS.
Cyflogaeth i Raddedigion
Gall ein tîm Aspire gynnig cymorth ac arweiniad pan fyddwch ar fin graddio – prentisiaethau ôl-radd, swyddi lefel mynediad i raddedigion neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun.
Cymerwch gip ar y gwaith rhyfeddol mae’r tîm Aspire yn ei wneud, drwy ddilyn y ddolen isod.