Grofar – Eich Pasbort Dysgu Ar-lein
Mae Grofar yn borth ar-lein a ddefnyddiwn i gofnodi oriau o Brofiad Gwaith a gwblheir, ynghyd ag i dracio eich nodau a’ch cynnydd ac i drefnu cyfarfodydd â’r tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Ewch i https://auth.grofar.com ar eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur.
Mewngofnodwch gyda’ch Manylion Myfyriwr Microsoft Office;
- e.e; LearnerID@student.cavc.ac.uk
- Cyfrinair: Eich Cyfrinair arferol
Ar ôl mewngofnodi, chwaraewch â’r system – ar Grofar, fe gewch fynediad at gymaint o nodweddion defnyddiol;
- Adeiladwch broffil personol o’ch cyflawniadau a thraciwch gynnydd eich nodau.
- Trefnwch sesiynau 1:1 â’ch hyfforddwyr gyrfaoedd
- Rheolwch/diweddarwch yr oriau a gofnodir yn ystod eich lleoliadau gwaith
- Lluniwch ddatganiadau personol i gefnogi unrhyw CV a ysgrifennir gennych neu geisiadau UCAS
- Cadwch olwg ar unrhyw ddigwyddiadau sydd i ddod o ran gyrfaoedd (o fewn y coleg a thu hwnt) gan ddefnyddio’r swyddogaeth calendr